Cyflogadwyedd a Gwirfoddoli
Mae Sgiliau Teulu yn deall y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth chwilio am waith a dechrau gweithio. Ein nod yw eich helpu i ennill y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnoch er mwyn sicrhau cyflogaeth.
Gallwn eich cynorthwyo gyda:
- Ysgrifennu CV
- Technegau cyfweliad
- Ffurflenni cais
- Chwilio am waith
- Ysgrifennu llythyrau clawr a llythyrau ar hap
Mae Sgiliau Teulu yn cydnabod nad yw pawb yn barod i gerdded yn syth i mewn i waith, ac fe all gynnig hefyd lleoliadau gwirfoddoli a gwaith.
Rydym wedi datblygu rhaglen trwy weithio gydag arbenigedd GAVO er mwyn sicrhau profiad cefnogol a buddiol. Fel rhan o’r rhaglen hon, rydym hefyd yn edrych ar ba gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael ar draws y ddinas ac ar ba leoliadau a fydd yn gwella eich dewisiadau gyrfa yn y dyfodol a datblygu eich sgiliau a gwybodaeth.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.